IeuanMORRISDymuna Nia, Jeni, Trystan a holl deulu Ieu ddiolch am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad, brawd a mab yng nghyfraith arbennig. Gwerthfawrogwyd pob ymweliad, cerdyn, galwad ffôn a chyfraniad ariannol at Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. Diolch i'r Canon Idris Thomas a'r Parchedig James Clarke am wasanaethu'n urddasol ac i Huw Foulkes am gyfeilio. Diolch yn arbennig i Meinir a holl staff ymgymerwyr Dylan Griffith, Penisarwaen, am eu gwasanaeth gofalus a thrylwyr. Diolch o galon i bawb
Keep me informed of updates