John RichardOWENJohn Rhos Engan Dymuna Christine, Dylan, Rhys a teulu oll y diweddar John Richard Owen o Cae Warren, Llandyfrydog ddiolch o galon i bawb am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem. Diolch am bob cardyn, galwad ffôn, negeseuon a'r rhoddion hael o £3,500 er cof am John a dderbyniwyd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch arbennig i'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r Heddlu. Diolch i'r Barchedig Elizabeth Roberts am ei gwasanaeth teimladwy ar ddiwrnod yr angladd ac i Melvin Rowlands Trefnwr Angladdau a'i gyd-weithiwyr am ei gwasanaeth urddasol ac am ei cefnogaeth ac arweiniad trwy ei tristwch. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates