Eluned LloydOWENMedi 27 2026 Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, o 5 Llys y Meddyg, Bodedern, Ynys Mon yn 46 mlwydd oed.
Merch ffyddlon i Will (Fix It) a'r ddiweddar Anwen, mam arbennig i Manon, chwaer fawr hoffus i Hugh a modryb hoff i Sion a Lexi. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Gwener, Hydref 30 am 11 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Ymholiadau Gwilym Jones a'i Fab, Caernarfon 01286 673027
Keep me informed of updates