Lydia MaryOWENSChwefror 15fed 2025, hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 95 mlwydd oed, gynt o Bragdy Aberffraw. Priod annwyl y diweddar Owen Owens (Owie Bragdy), mam arbennig Carolyn a'r diweddar Alan, nain falch Gavin a Rachel, hen nain Amelie a Seb a modryb hoff Raymond, Lesley, Pamela a Michael. Bydd yn golled i'w theulu a'i ffrindiau. Angladd ddydd Llun Mawrth 10fed, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Beuno, Aberffraw am 1.00 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Gymuned Aberffraw. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Cartref Preswyl Bodelwyddan a Nyrsus Cymunedol Llangefni (sieciau yn daliadwy i cyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Lydia