Melvina RosamondPHILLIPSYn dawel yn ei chartref gyda'i theulu ar Ionawr 26ain bu farw 'Vina', Maesyrawel, Capel Iwan.
Gwraig ffyddlon i'r diweddar 'Mel', mam annwyl i Wendy, Geraint, Barry a Brian, mam yng nghyfraith i Anthony, Nia, Natalie a Nia, a mam-gu a hen fam-gu arbennig.
Angladd breifat i'w chynnal yng Nghapel Iwan ar ddydd Llun, Chwefror 17eg. Blodau teulu a ffrindiau agos yn unig.
Rhoddion, os dymunir, i Uned Cemotherapi Glangwili (sieciau'n daladwy i 'Elusennau Iechyd Hywel Dda') trwy law'r Trefnwr Angladdau, Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE 01994 484540 07974 313719.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Melvina