Dilys AnnRICHARDSYn dawel yng nghwmni ei theulu dydd Sul Rhagfyr 3, 2023, yn 75 oed Dilys, Ardwyn, 3 Clos Castell Coity, Pen-y-bont ar Ogwr. Priod a chariad Hywel, mam annwyl Catrin a Lowri, mam yng ghyfraith garedig Osian mamgu ffeind a chariadus Gwion, Cadi, Elliw, Elain ac Elis
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llangrallo dydd Iau, Rhagfyr 14, am 10.30 y bore, i'w ddilyn gan oedfa i ddathlu ei bywyd yn Y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr am 11.45 o'r gloch.
'Er y rhwyg, er colli'r hwyl mae'r wên yr un mor annwyl'
Rhoddion er cof am Dilys i'w rhannu rhwng Cymdeithas Alzheimer's a Chymorth Cristnogol, drwy law'r saer-hebrwng, Penybont Funeral Services, Medow St, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1HE (01656 650831)
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Dilys