MartinROBERTSROBERTS - MARTIN (Martin Bach). 20 Ebrill, 2009. Yn sydyn ond eto'n dawel yn ei gartref ym Mhlas Dinorwig, Y Felinheli, gynt o Fodlondeb, Pen-y-groes, yn 48 mlwydd oed. Mab addfwyn Jane a'r diweddar Sulwyn, tad arbennig Sion a Sulwen, a chymar cariadus Meinir. Brawd hoff Alan a Kevin, brawd-yng-nghyfraith annwyl Rhian, ac ewythr tyner Gareth a Gwenan. Hefyd cyfaill hynaws a ffyddlon i lawer. Angladd brynhawn Sadwrn, 25 Ebrill, 2009. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau gan y teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag Ymchwil Cancr. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. Ffon: 01286 881280.
Keep me informed of updates