Hedd ParriROBERTSCaermeini, Llanuwchllyn. Dymuna Ann, Robyn, Heledd, Non, a'u teuluoedd, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid arbennig. Gwerthfawrogir yr holl negeseuon, a'r galwadau ffôn a dderbyniwyd gan deulu, cymdogion, ffrindiau a chydnabod o bell ac agos. Diolch yn arbennig i'r Parch Carwyn Siddall am ei ofal, a'i gyfeillgarwch, ac am baratoi gwasanaeth teilwng ar lan y bedd. Diolch hefyd i'r Brodyr Evans, Y Bala, am eu cefnogaeth a'u trefniadau trylwyr. Diolch i bawb a anfonodd gyfraniad er cof am Hedd. Rhannwyd yr arian rhwng elusennau oedd yn agos at ei galon. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates