SylviaROBERTS3 Hydref 2026.
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd o 38 Maes Meurig, Gwalchmai yn 71 mlwydd oed.
Annwyl briod y diweddar Derek, mam hoff Paula, Mandy, Dylan a Ffion, mam yng nghyfraith Geraint, Huw, Steph a Darren, nain a hen nain hoff. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Iau, 22 Hydref 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Jerwsalem Gwalchmai.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates