Griffith VaughanTHOMASTHOMAS - Griffith Vaughan (Guto). Awst 30ain. 2014 yn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl ac o Gefail y Bont, Efailnewydd yn 68 mlwydd oed. Mab hynaf Nellie a'r diweddar Hugh Thomas, brawd annwyl Eirlys, Gwenda a'r diweddar Emyr, tad caredig Helen, Gwennan, Aled a Llinnos, taid hoffus Steven, Tomos, Hanna a Katie, ffrind agos i Helen, brawd yng nghyfraith, ewythr a ffrind i lawer. Angladd ddydd Gwener, Medi 5ed. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Berea M.C. Efailnewydd am 11 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Pentreuchaf. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Guto at Gronfa Ysgol Hafod Lon, Y Ffor naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Add a tribute for Griffith