KennethTHOMASDymuna Sallie, Lorraine, Haydn, Steven a teulu y ddiweddar Mr Kenneth Thomas, Caernarfon estyn diolch enfawr i bawb alwodd draw, anfonodd negeseuon o gyfeillgarwch a chefnogaeth yn eu profedigaeth. Hefyd hoffwn ddiolch i bawb am y rhoddion hael er cof a casglwyd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Diolch o galon i doctoriaid Hafan Iechyd am ei gofal, nyrsys cymunedol Hafan Iechyd am ei cymorth a cefnogaeth ac i ofalwyr Cyngor Gwynedd am ei gofal a cyfeillgarwch.
Diolch i Meirion McIntyre Huws am ei ymrodd ar dydd yr angladd a hefyd i Dylan o Gwilym Jones a'i fab, Caernarfon am ei arweiniant a threfniant proffesiynol. Hefyd hoffwn ddiolch i Linda am y blodau bendigedig a Sophia Seiont Mill am baratoi a gweini y te cynhebrwng.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Kenneth