EileenWALTERSYn dawel ar ddydd Mercher Rhagfyr 10 yn Ysbyty Treforus, Eileen, gynt o Gorwel Heol Elim, Caerfyrddin; priod annwyl y diweddar Parchedig W.T. Ronald Walters, mam gofalus Rosan a Lona, mamgu cariadus Lowri, Lisa, Medyr a Rhun, hen famgu arbennig i Gabrielle a mam-yng-nghyfraith hoffus Phil ac Eirian. Gwasanaeth yng Nghapel Ebeneser Newydd, Stryd Henrietta, Abertawe ar ddydd Mawrth Rhagfyr 23 am 12.30yp ac Amlosgfa Treforus am 2yp. Trefnwr Angladdau St James Funeral Home, Uplands, Abertawe. Ffon 01792 643840.
Keep me informed of updates