Elizabeth WynneWILLIAMSWILLIAMS - ELIZABETH WYNNE (Betty Prince). 10 Mawrth, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Willow Hall, Caernarfon, gynt o 19 Station Road, Pen-y-groes, yn 90 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar John Henry Williams, a mam arbennig Ieuan, Keith a Janice; mam-yng-nghyfraith hoff Nerys a Nigel, nain annwyl Llyr, Andrew, Emma, Lee, Sara, Anna a Katie a hen-nain falch Scott, Zack, Olivia ac Amelia. Angladd brynhawn Llun, 16 Mawrth, 2015. Gwasanaeth cyhoeuddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Gronfa Mwynderau Canolfan Frondeg, Caernarfon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth