GwendaWILLIAMS13/11/28 - 16/7/19 St. Winefried's, Pontcanna. Hunodd yn dawel Ddydd Mawrth, Gorffennaf 16eg yng nghwmni ei theulu yn hosbis Marie Curie, Holme Towers, Penarth ar ôl cystudd byr. Gwraig y diweddar Barchedig Ifan R. Williams, a chwaer y diweddar Nesta, Alun a Geraint, Mam Elin, Siwan a Rhisiart, mam yng nghyfraith James, Nia a Paul, Mamam Megan a Mamgu Cadi, Morfudd, Hopcyn, Dafydd ac Elen a hen famgu Otis Hefin. Angladd agored yng nghapel y Wenallt, Thornhill, Dydd Gwener Gorffennaf 26ain am 1100 y bore, CF14 6RG . Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion, os dymunir i elusennau WaterAid, Hosbis Holme Towers a Phrosiect Lloches Di- gartref Capel Salem drwy law Rhisiart Williams, 56 Heol y Gors, Yr Eglwys Newydd, CF14 1HH. Cwmnïaeth wedi 'r angladd yng Nghwrt Insole, Llandaf CF5 2LN.
Keep me informed of updates