LauraWILLIAMS18 Medi, 2023.
Yn dawel yng ngofal arbennig Cartref Gwynfa, Caernarfon, a gynt o 22 Maes-y-farchnad, Pen-y-groes, yn 99 mlwydd oed.
Gwraig annwyl y diweddar Hywel Idris Williams, mam hynod Caren a'i chymar David a Sonia a'i gŵr Paul, naini gariadus a balch Elin Haf a'i dyweddi Llion. Ffrind a chymydog triw a chymwynasgar i lawer ar hyd y blynyddoedd.
Angladd hollol breifat i'r teulu yn unig yn ôl ei dymuniad.
Dim blodau ond os dymunir, derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Laura tuag at y Royal Osteoporosis Society.
Ymholiadau pellach: Gwilym Jones a'i Fab, Cyfarwyddwyr Angladdau, South Road, Caernarfon - rhif ffôn (01286) 673072.
Keep me informed of updates