Jane AnnWILLIAMSHunodd yn dawel yn ei chartref yn Llanon dydd Iau 16eg o Dachwedd 2023 yn 97 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar Evan, mam ofalus John ac Avril, mam-yng nghyfraith annwyl Sulwen a Lyn, mamgu gariadus Arwel, Clive, Iona, Carwyn ac Eirian, hen famgu hoffus Willow, Osian, Beca, Trudy, Martha, Lili, Tomos, Efan a Lois.
Gwasanaeth preifat yn eglwys Sant Vitalis, Dihewyd ar ddydd Iau 23ain o Dachwedd am 1 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof os dymunir tuag at 'Age Cymru Dyfed' (Dementia Ceredigion) trwy law yr Ymgymerwr - Alan Edwards, D Edwards a'i fab, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbed, SA48 7PN. Ffôn: 01570 470289 Sieciau yn daladwy i - Age Cymru Dyfed.
Keep me informed of updates