JennieWILLIAMS23ain Hydref 2024, yn dawel yn ei chartref Pengwern, Ffordd Cae Rhyg, Nefyn yn 96 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Robin Williams, mam ofalus Dilys a Glyn, mam yng nghyfraith hoffus Gwilym, nain annwyl Owain, Manon, Alex a'r diweddar Heidi, hen nain garedig Caio, Calan a Robin a chwaer arbennig i Jessie, Gwyneth, Helen a'r diweddar frodyr a chwiorydd.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Isa, Nefyn dydd Iau, 7fed Tachwedd am 11.00 o'r gloch gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Pentreuchaf.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Jane tuag at Gronfa Capel Soar, Nefyn trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Jennie