LilianJONESHunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Bwthyn, 6 Ffordd Bowydd, Blaenau Ffestiniog dydd Iau 24 Ebrill 2025 yn 91 mlwydd oed. Mam amhrisiadwy a gofalgar i Brian, Keith, Dewi a Delyth. Mam yng nghyfraith annwyl i Glenda, Sandra, Sheira a Stuart. Nain garedig i Mathew, Megan, Lili, Elin, Sam, Manon a'r diweddar Dylan ac Iwan. Hen Nain balch Tomi, Harry a Cai. Ffrind da a chymwynasgar i lawer. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd dydd Mercher Mai 14. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog am 1.00 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu yn unig ond, os dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof annwyl amdani tuag at Y Dref Werdd a'r Gwasanaeth Nyrsys Cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog drwy law'r ymgymerwyr
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates