ElizabethJONES14eg o Hydref 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Glan Clwyd yn 94 mlwydd oed o'r Hen Deanery, Llanelwy, gynt o Erw Las, 4 Maes Tegid, Heol Tegid, Y Bala. Priod ffyddlon y diwedddar Morris, a mam gariadus Maureen, Valmai. Lynda, Steven, Ruth, a'u partneriaid, a nain falch i'w hwyrion a'i hwyresau a'i gorwyrion. Chwaer annwyl i Kate a'r diweddar Jennie.
Cynhelir gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd Betty yng Nghapel Tegid y Bala Dydd Llun 28 Hydref am 2.00 o'r gloch. Blodau i'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Capel Tegid y Bala a Tŷ Gobaith trwy law yr ymgymerwyr. A.G. Evans a'i Feibion y Bala: Rhif ffôn 01678 520660.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth