IdrisHUGHES23 Hydref 2025 Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd o 28 Ty'n Berllan, Bryngwran yn 92 mlwydd oed.
Annwyl briod Megan a ewythr hoff ei nithoedd a'i neiaint. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Mawrth, 4 Tachwedd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 11.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys yn breifat ym Mynwent Eglwys St Caffo, Llangaffo.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Parkinson UK trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940
Keep me informed of updates