Hugh ArfonJONES19 Hydref, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei deulu ar ei aelwyd yn Nhalymignedd Isaf, Nantlle, yn 90 mlwydd oed. Priod a ffrind gorau'r diweddar Olive, tad arbennig Arwel a Sioned, a'r diweddar Ann a'i phriod, Iolo. Trysor o daid i Rhys, Alun, Elin, Tomos, Ffion a Robat, a hen-daid balch Efan, Arwen, Owi a'r diweddar Guto. Brawd gofalus Alwyn a'i briod Nia, Ellen a'i phriod, Gwynfor a'r diweddar John a Cathrin; hefyd brawd-yng-nghyfraith amhrisiadwy Menai, Margaret, Elwyn a'u teuluoedd, a ffrind triw i lawer.
Angladd brynhawn Gwener, 6 Tachwedd, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Drws y Coed am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes.
Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano at yr achos yng Nghapel Drws y Coed ac achosion lleol.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates